Sadwrn 12/08/17
Clwb Ifor Bach

Dirty Pop

10:30pm | £5 | 18+

Caerdydd, chi’n barod i ddawnsio? Ma’ ‘da ni llwyth o wahanol mathau o gerddoriaeth, dros tri llawr. Bydd e’n nos Sadwrn i’w chofio!

Dirty Pop – Newn ni ddechre gyda’r llawr gwaelod. Os mae pop electronic a dawnsio disco yw dy hoff bethau, wedyn DJs Ian Cottrell a Esyllt Williams yw dy bobl di! Ni wedi clywed taw ni yw noson fwya hwyl Caerdydd, ac fel ennillydd Noson Clwb Gorau yng Ngwobrau Cerddoriaeth Caerdydd 2018, does dim rheswm i ni anghytuno!

Mr Potter’s Proper Disco – Ma’r ail lawr yna yn nefoedd i’r disco fanatics yn ein plith. Bydd Mr Potter yn cadw pawb i ddawnsio trwy’r nos gyda’i jump-jive, soul, funk, rhythm a blues disco.

GRL TLK / Andrew Rhys Lewis – Ma’ fe’n ffordd hir lan ‘na, ond ma’ fe werth e, ni’n addo! Ma’r DJs yma yn cymryd e mewn tro a ma’ nhw’n wynebau cyfarwydd mewn gwyliau cerddorol fel Gwyl Reading & Leeds, Latitude, Gwyl y Dyn Gwyrdd a mwy!