
- Clwb Yn Y Castell: Buzzard Buzzard Buzzard
- Panic Shack, The Bug Club
- Dyddiad:
- Amser:
- Pris: £10
- Cyfyngiadau Oedran: 0+
- Lleoliad: Cardiff Castle
Mi fydd Buzzard Buzzard Buzzard, Panic Shack a The Bug Club yn chwarae yng Nghastell Caerdydd ar Nos Wener, Awst 27. Mae’r line up o artistiaid lleol wedi cael eu curadu gan Clwb Ifor Bach fel rhan o fenter Cyngor Caerdydd i gefnogi gigfannau annibynnol Caerdydd.
Bydd y digwyddiadau’n cynnig seddi ac ardaloedd sefyll i’r rhai sy’n mynd i’r gigs ddewis ohonynt. Fel amod i gael mynediad, bydd yn ofynnol i bawb sy’n bresennol gyflwyno Prawf Llif Unffordd negyddol (a gymerwyd yn ystod 24 awr flaenorol). Bydd angen cerdyn adnabod gyda llun arno a bydd gwybodaeth tracio ac olrhain hefyd yn ofynnol.
Mae’r digwyddiad yma yn addas ar gyfer pob oedran. I unrhyw un o dan 14 mlwydd oed, mae’n rhaid eich bod chi’n mynychu gydag oedolyn. Mae’n rhaid i unrhyw un dros 11 mlwydd oed gymryd Prawf Llif Unffordd. Pris y tocynnau yw £10 i bawb.