Sadwrn 26/01/19
Sound & Vision

Buzzard Buzzard Buzzard

Adwaith, Shoebox Orchestra, Accu, Zac White
7:00pm | £8-10 | 18+

Mae ‘Sound and Vision’ yn ôl, yn cyflwyno goreuon y sin Cymraeg yn 2019! Mae’r lein yp yn anhygoel:

Buzzard Buzzard Buzzard 

Mae Buzzard Buzzard Buzzard yn rhoi cic lan tîn roc. Mae’r pedwar cerddor yn creu pop gitar wedi’i ysbrydoli gan roc vintage a glam sy’n cael ei alw’n denim rock gan y band.

Adwaith

Mae’r triawd alt-folk yn cwrdd âg ol-pync, maent wedi bod yn creu argraff ar y sin Cymraeg gyda’i halawon cynnil a negeseuon cryf.

Shoebox Orchestra

Mae ei bio Trydar yn darllen “music & moonlight & love & romance”, gyda’i ryddhad fwya’ diweddar yn dyddio nol i 2015, ni methu aros i glywed pa romans, cariad, golau’r lleuad a cherddoriaeth sydd ganddynt!

Accü (solo)

Mae’r arlunydd a chynhyrchydd arbrofol gyda’i psyche-pop arallfydol, newydd ryddhau albwm ‘Echo the Red’.

Zac White (Cassete Tape Set)

Ar ôl treulio amser yn chwarae gyda’r actiau eraill o Gaerdydd, Buzzard a FUR, mae’r gerddoriaeth sydd bellach i’w enw’n dangos Zac White yn ymestyn at lefydd newydd, gan ychwanegu seic tarthog a synau canu gwlad i’w drôl slacyr.