Photo of singer songwriter Al Lewis

Al Lewis – Galeri, Caernarfon

Mared Williams

  • Al Lewis – Galeri, Caernarfon
  • Mared Williams
  • Dyddiad:
  • Amser:
  • Pris: £14
  • Cyfyngiadau Oedran: All Ages
  • Lleoliad: Galeri

Mi fydd Al Lewis yn ymweld a Caernarfon ar ei daith Tê Yn Y Grug!

Mae Clwb Ifor Bach yn hapus iawn i gyhoeddi bod Al Lewis yn mynd ar daith mis Mai nesaf. Ar ôl angen canslo ei daith Tê yn y Grug yn 2020, mae’n fraint cael cyd-weithio gyda Al Lewis er mwyn dod a’r albym hyfryd yma nol yn fyw ar lwyfannau Cymru.

Gyda’r albym yn seiliedig ar y gyfres eiconig o straeon byr gan Dr Kate Roberts, Tê yn y Grug, mae’r caneuon yma yn rhoi llais i fywydau trigolion pentref bach yng nghymuned cloddio llechi yn y Gogledd Orllewin. Ac i goroni’r cyfan, mi fydd Al Lewis yn perfformio gyda chôr lleol ymhob sioe er mwyn dod a haen arall i’r straeon hyfryd yma.