Polisi COVID-19

  1. Parchwch eraill

Parchwch gwsmeriaid eraill, yr artistiaid, y staff, a phawb yn yr adeilad. 

Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at allu dawnsio, mwynhau bandiau byw, canu a cholli ein hunain yn y gerddoriaeth eto, ond mae perffaith hawl gennych chi i deimlo’n bryderus am hyn hefyd. Byddwch yn ymwybodol y gallai’ch barn a’ch safbwyntiau fod yn wahanol i rai eraill yn yr adeilad ac y bydd pawb yn dod yn ôl i arfer â phethau ar eu telerau nhw eu hunain. Parchwch hyn a defnyddio’ch synnwyr cyffredin. Ystyriwch eraill a rhoi’ch hunain yn eu sgidiau. 

Er y bydd ymweld â Clwb yn teimlo’n debyg i sut yr oedd cyn y pandemig, ar rai agweddau bydd yn wahanol. Mae gennyn ni bolisïau, canllawiau a rheolau newydd mae’n rhaid i ni lynu wrthyn nhw. Mae’r rhain yn newydd i’r holl staff, felly os gwelwch yn dda, byddwch yn amyneddgar gyda ni, gan ddangos parch at bawb sy’n gweithio yma. Mae’n mynd i fod yn llawer anoddach iddyn nhw nag y bydd i chi. Byddwch yn neis. 

 

  1. Symptomau

Peidiwch â dod i’n digwyddiadau os oes gennych chi unrhyw symptomau Covid-19 neu os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi dod i gysylltiad â’r feirws.

 

  1. Pàs Covid

O 18 Chwefror, ni fydd yn ofynnol i chi ddangos pás Covid-19 neu ganlyniad LFT negyddol i gael mynediad i Clwb Ifor Bach, yn unol â chanllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn rydym yn ei wneud fel lleoliad i’ch cadw’n ddiogel i liniaru lledaeniad Covid-19, ewch i’n gwefan.

 

  1. Gorchuddion wyneb

Gwisgwch orchudd wyneb os oes modd i chi. Sylwch, fydd hyn ddim yn orfodol. Parchwch ddewisiadau pawb i wisgo gorchudd wyneb neu beidio. 

 

  1. Cadw pellter

Byddwch yn ystyriol. Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin. Meddyliwch am eraill. Os yw’n amlwg bod angen mwy o le personol ar unigolyn – parchwch hynny a pheidio â’i herio. Mae pobl yn mynd i deimlo’n wahanol o’i gymharu ag o’r blaen. 

 

  1. Glanhau

Bydd gennyn ni weithdrefn lanhau well ar waith, a byddwn ni’n darparu cyfleusterau diheintio dwylo ychwanegol o amgylch yr adeilad. Defnyddiwch nhw yn rheolaidd. 

 

  1. Awyru / Technoleg Uwch-fioled / Monitro Carbon Deuocsid

Mae’r canlynol ar waith gennyn ni i helpu i gyfyngu ar ledaeniad posibl y feirws a gwella ansawdd yr aer trwy’r adeilad.

Mae offer awyru wedi’i osod ar dri llawr yr adeilad, a bydd yr offer yma ar waith bob amser.

Rydyn ni wedi gosod naw uned hidlo aer uwch-fioled yn yr adeilad cyfan – 

tri ar gyfer pob llawr. Dyma ddull â thystiolaeth wyddonol yn sail iddo sy’n gwneud pathogenau yn yr aer yn ansefydlog. Mae hyn yn lleihau’n sylweddol y risg o drosglwyddo Covid-19 drwy aerosol yn ein hadeilad.

Yn olaf, rydyn ni hefyd wedi gosod offer monitro Carbon Deuocsid ar bob llawr fel bod modd i ni asesu’n barhaus ansawdd yr aer yn yr adeilad.

Gwyddoniaeth a thechnoleg – ein hoff bynciau bellach. 

 

  1. Taliadau â Cherdyn di-gyffwrdd

Er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws trwy ddod i gysylltiad ag eraill, byddwn ni dim ond yn cymryd taliadau â cherdyn di-gyffwrdd am y tro. 

 

Asesiad Risg

Rydyn ni wedi cynnal yr asesiad risg yma’n unol â’r canllawiau diweddaraf a bydd yn cael ei adolygu a’i ddiwygio’n rheolaidd i sicrhau bod modd i ni barhau i ddarparu amgylchedd diogel i’n staff a’n cwsmeriaid.

Fel y mwyafrif o leoliadau lletygarwch, mae angen i ni allu gweithredu hyd eithaf ein capasiti ar adegau er mwyn sicrhau bod ein digwyddiadau’n llwyddiannus. Mae angen i’r digwyddiadau yma fynd yn eu blaen i artistiaid, hyrwyddwyr, peirianwyr sain a’r holl staff eraill. 

Serch hynny, mae angen i ni sicrhau eu bod nhw’n cael eu cynnal mewn modd sy’n ddiogel ac yn hwyl. Mae’r ddau beth yma’n gallu bodoli ochr yn ochr â’i gilydd, ac mi fyddan nhw.