
Yn dilyn cais llwyddianus i sefydlu elusen rydym ni yng Nghlwb Ifor Bach yn edrych am 9 Ymddiriedolwyr i ymuno â’n Bwrdd o Ymddiriedolwyr.
Dyma gyfle arbennig i siapio dyfodol Clwb Ifor Bach drwy ddatblygu nod ac amcanion y sefydliad yn unol a’n pwrpas elusennol i addysgu’r cyhoedd drwy hyrwyddo eu dealldwriaeth o gerddoriaeth gyfoes gan gynnwys cerddoriaeth Cymreig a Chymraeg.
Rydym yn awyddus i weld ceisiadau gan unigolion sydd â’r sgiliau a’r profiad canlynol.
- Deddfwriaeth Elusennol
- Rheoli Ariannol – elusennau
- Prosiectau Adeiladu Cyfalaf
- Rheoli cyfleusterau
- Codi arian
- Y diwydiant cerddoriaeth
- Ymgysylltiad ậ’r celfyddydau cymunedol
- Partneriaethau addysg bellach / uwch
Dyma gyfle gwych i unrhyw ymgeiswyr i ddefnyddio eu sgiliau mewn rôl gwirfoddol.
Mae cyngor ar sut i wneud cais i’w ffeindio o fewn y pecyn cais isod.