
MAE CLWB IFOR BACH YN EDRYCH AM SWYDDOG MARCHNATA CERDDORIAETH BYW I YMUNO Â’R TIM!
Lleoliad cerddorol llawr gwlad sefydledig yng nghanol Caerdydd yw Clwb Ifor Bach, ac mae wedi bod yn gartref i artisitiad newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg ers dros 40 mlynedd. Rydyn ni hefyd yn un o hyrwyddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw Caerdydd, yn trefnu sioeau ledled y wlad, rhaglennu cerddoriaeth fyw ar gyfer amryw o ddigwyddiadau, ynghyd â chynnal gŵyliau aml-safle yng nghanol y ddinas, Gŵyl Sŵn & Celebrate This Place.
Ym mis Ebrill 2021, fe lansion ni Clwb Music, sef cwmni rheolaeth cerddoriaeth gyda’r bwriad o chydweithio a datblygu artistiaid o Gymru.
Mae Clwb Ifor Bach yn dymuno recriwtio Swyddog Marchnata Cerddoriaeth Byw creadigol sydd â diddordeb brwd iawn mewn cerddoriaeth gyfoes i ymuno â’r tîm marchnata. Byddai’r ymgeisydd delfrydol wrth ei fodd â cherddoriaeth, ac yn meddu ar brofiad mewn rôl debyg neu yn y diwydiant cerddoriaeth.
Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys creu cynnwys digidol, rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol amrywio a sicrhau bod ein digwyddiadau byw yn cael ei marchnata i’r gorau o’ch gallu.
Cliciwch yma am ddisgrifiad llawn o’r swydd.
Os oes diddordeb efo chi yn y swydd ac eisisau manylion pellach cyn ceisio yna anfonwch eich cwestiynnau I george@clwb.net