Banner with

Swydd Newydd: Rheolwr Swyddfa

Newyddion Clwb Ifor Bach – 09/09/2021

Mae Clwb yn chwilio am rheolwr swyddfa i ymuno a’r tîm!

O ganlyniad i gynnydd yng ngweithgarwch y cwmni yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a’n cais llwyddiannus diweddar i ddod yn elusen, rydym ni nawr yn chwilio am Reolwr Swyddfa i ymuno â’r tîm. Chi fydd yn gyfrifol am y gweithrediadau ariannol o ddydd i ddy- dd, ynghyd â gwaith adnoddau dynol amrywiol, dyletswyddau gweithredol a gweinyddol, iechyd a diogewlch, sicrhau bod y swyddfa’n cael ei rhedeg yn effeithlon ynghyd â chynorthwyo gyda datblygiad y busnes.

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch CV a llythyr eglurhaol i guto@clwb.net erbyn 5yh dydd Gwener 1af o Hydref 2021.

Lawrlwythwch y swydd ddisgrifiad yma.