
Mae Clwb yn chwilio am rheolwr dyletswydd newydd i ymunoma’r tîm.
Gigfan sefydledig yw Clwb Ifor Bach sydd wedi bod yn gartref i gerddoriaeth newydd am dros 35 mlynedd. Rydym hefyd yn un o brif hyrwyddwyr annibynnol Caerdydd, yn hyrwyddo digwyddiadau ar draws y wlad, rhaglennu cerddoriaeth byw ar gyfer amryw o ddigwyddiadau a chyflwyno yr ŵyl aml-leoliad dinesig, Gŵyl Sŵn.
Ym mis Ebrill 2021, fe lansiwyd Clwb Music, cwmni cerddoriaeth annibynnol sy’n cynnwys label recordiau, cwmni rheoli a chyhoeddi gyda’r nod o ddatblygu a chydweithio ag artistiaid o Gymru.
Rydym yn edrych am Reolwr Dyletswydd profiadol i ymuno gyda’r tîm.
Dyddiad Cau: 5pm Dydd Gwener 29ain Ebrill 2022
Natur y Cytundeb: Llawn Amser / Parhaol
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Ebostiwch guto@clwb.net gyda’ch CV a’ch llythyr eglurhaol i wneud cais.
Lawrlwythwch y swydd ddisgrifad llawn yma.
—-
Prif Ddyletswyddau
Rheoli
- Rheoli yn ystod oriau agor, gan gynnwys rheoli a chyfarwyddo’r staff bar a diogelwch
- Gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer y staff bar, diogelwch, technegwyr, artisitiad a hyrwyddwyr yn ystod oriau agor.
- Sicrhau bod pob elfen o’r gwasanaeth yn cydymffurfio gyda polisiau’r cwmni a pholisiau allanol megis y Ddedf Trwyddedu 2003 a Deddfau Iechyd a Diogelwch a.y.y.b.
- Rheolaeth stoc a gwastraff diodydd.
- Cyfrif a chofnodi’r incwm dyddiol.
- Cynnig safon uchel o wasanaeth cwsmer, a’r gallu i ddelio ac i ddatrys problemau wrth i nhw godi.
Selar ac Ardal y Bar - Trin gyda’r archebion diodydd, rheolaeth stoc a glanhau’r llinellau cwrw.
- Glanhau rheolaidd o’r selar a’r ardal cefn y bar, gan sicrhau safon uchel o lendid ym mhob man.
- Cadw trosolwg o’r ystafell gotiau a thrin gyda unrhyw eiddo coll.
Cyfrifoldebau Eraill
- Recriwtio, hyfforddi ac amserlenni gwaith y staff bar.
- Amserlenni gwaith staff SIA
- Rheoli a diweddaru’r system tilliau.
- Gwiro’r stoc yn rheolaidd.
—-Profiad & Cymwysterau
Gofynnol
- Sgiliau trefniadau a’r gallu i weithio dan bwysau
- Profiad o arwain a rheoli tîm
- Bydd disgwyl i chi weithio oriau hyblyg, penwythnosau a nosweithiau hwyr.
Dymunol
- Trwydded personol
- Dealldwriaeth o ofynion Iechyd a Dioglewch mewn lleoliad trwyddedig
- Profiad / Diddordeb mewn cerddoriaeth byw a dealldwriaeth o’r maes.
- Profiad o weithio ar gynlluniau ‘safleoedd saff’ (e.e. Good Night Out / Women’s Safety Charter)
- Profiad o reoli stoc
- Trwydded Cymorth Cyntaf
- Gallu ysgrifennau a siarad Cymraeg
Buddion
- Gigs am ddim
- Swyddfa yng nghanol y ddinas
- Gweithle cymdeithasol
- Cyfeluoedd rheolaidd am hyfforddiant