
Mae Clwb Ifor Bach yn falch o gyflwyno gyfres cyfyngedig o weithdai diwydiant ar y cyd gyda Maes B ac Urdd Gobaith Cymru. Ar gael i bobl ifanc oed 16+ ac yn cynnwys amrywiaeth o feysydd yn y byd cerddoriaeth.
Ydych chi eisiau creu celf i gloriau albym? Ail-gymysgu a cynhyrchu caneuon? Creu ffilmiau a dogfennau i gerddoriaeth poblogaidd? Perfformio ar lwyfannau mwyaf Cymru? Mae’r Urdd, Clwb Ifor Bach a Maes B yn cyd-weithio i ddarparu cyrsiau creadigol hynod gyffrous i bobl ifanc 16+ sydd yn ymddiddori yn y byd cerddoriaeth, dylunio a ffilm. Ymunwch gyda pedwar o artistiaid a dylunwyr mwyaf adnabyddus Cymru, mewn cyfres o weithdai proffesiynol ar-lein dros gyfnod o bedair wythnos. Dyma gyfle i ymestyn, arbrofi a dysgu sgiliau a technegau hollol newydd mewn pedwar maes penodol. Mae croeso i chi gofrestru i fwy nag un sesiwn.
Darllenwch ymlaen am fwy o wybodaeth! Cofrestrwch am y sesiynau yma.
Ffilm
Ymunwch a’r cerddor a’r cyfarwyddwr ffilm, Griff Lynch wrth iddo eich arwain mewn gweithdy arbennig ar olygu, creu fideo’s a dogfennau i gerddoriaeth ac artistiaid.
Pob nos Lun Ion 25 – Chwef 15
Ysgrifennu Cerddoriaeth
Ymunwch a’r cerddor, Heledd Watkins wrth iddi rhannu ei sgiliau cyfansoddi. Ymunwch pob nos Fawrth a un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru, i ddysgu dulliau newydd a chyfoes o ysgrifennu caneuon.
Pob nos Fawrth Ion 26 – Chwef 16
Ail-Gymysgu a Cynhyrchu
Ymunwch a un o DJs mwyaf poblogaidd Cymru, Endaf, i ddysgu sut i gynhyrchu cerddoriaeth electronig a sut i ail-gymysgu cerddoriaeth boblogaidd.
Pob nos Fercher Ion 27 – Chwef 17
Gweithdy Celf a Dylunio
Mi fydd y dylunydd a’r cerddor Steffan Dafydd, yn rhannu ei sgiliau dylunio gyda chi mewn gweithdy celf. Dewch i ddysgu sut i gyfuno prosesau digidol ac analog a sut i greu gwaith celf i safon uchel a proffesiynnol!
Pob nos Iau Ion 28 – Chwef 18
Cwestiwn? Danfonwch e-bost i Lewys yn Urdd Gobaith Cymru trwy lewys@urdd.org.