
Iep. Ma fe’n ff*cin oer yn y boreau nawr. A so ni’n mynd i gymryd e ragor. Ni moen ein tymheredd arferol nol, NAWR.
Mae’n 07:45. Aiff y larwm off am yr ail dro bore ‘ma. Ti’n cymryd dy amser i agor dy lygad yn ara’ deg i olau’r bore tra bod ti’n sydyn yn gweld mwg o dy flaen. Mewn syndod, ti’n neidio o’r gwely, mond i sylweddoli munud yn hwyrach taw condensation yw e, ‘na gyd.
Dyma playlist i helpu chi dechrau’r dydd off yn well ac ymladd yn erbyn rhyfel y boreau oer. Llawn electronica sy’n cwtcho chi’n agos, alt-pop disglair a chaneuon folk clyd.