Opportunity: Promotions Coordinator

Clwb Ifor Bach News – 18/09/2023

Rydym yn edrych am Gydlynydd Hyrwyddo i ymuno â’n tîm yn Clwb Ifor Bach!

 

Lleoliad cerddorol llawr gwlad a chlwb nos sefydledig yng nghanol Caerdydd yw Clwb Ifor Bach, ac mae wedi bod yn gartref i gerddoriaeth newydd a cherddoriaeth sy’n dod i’r amlwg ers dros 40 mlynedd. Ni yw’r clwb nos sydd wedi bod ar agor hiraf yng Nghaerdydd, ac un o hyrwyddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw y brifddinas, yn rhaglennu cerddoriaeth fyw a digwyddiadau clwb ledled y wlad, ynghyd â chynnal yr ŵyl aml-safle yng nghanol y ddinas, Gŵyl Sŵn.

Ym mis Ebrill 2021, fe lansion ni Clwb Music, sef grŵp cerddoriaeth annibynnol sy’n cynnwys label recordiau, tîm rheoli a chwmni cyhoeddi, gyda’r nod o ddatblygu a chydweithio gydag artistiaid o Gymru.

Rydyn ni’n chwilio am Gydlynydd Hyrwyddo i ymuno â’n tîm. Byddwch chi’n canolbwyntio ar reoli, datblygu a hyrwyddo’r rhaglen o ddigwyddiadau nad ydynt yn gerddoriaeth fyw; gan gynnwys nosweithiau clwb, partïon ar ôl sioeau, llogi preifat a digwyddiadau gyda’r dydd. Gan weithio gyda’n timau marchnata a digwyddiadau mewnol, bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad yn y diwydiant digwyddiadau ac angerdd am farchnata a chreu cynnwys.

Mae’r cyfrifoldebau’n cynnwys cyflawni’r calendr nosweithiau clwb a digwyddiadau cysylltiedig, a’r strategaeth creu cynnwys a marchnata cysylltiedig, yn ogystal ag unrhyw waith arall a bennir gan y Pennaeth Cerddoriaeth o dro i dro. Er bod y swydd wedi’i lleoli yn y swyddfa yn bennaf, bydd disgwyl i chi fynd i ddigwyddiadau yn rheolaidd.

Disgrifiad Swydd Yma