Menywod Cymry Sy’n Creu Cerddoriaeth

Playlist – 07/03/2019

O’r sgrechfeydd soul-punk gan Katie Hall o Chroma a’r canu ysbrydol gan jessica Ball o Mammoth Weed Wizard bastard i synnau R&B Baby Queens, a space pop breuddwydiol Serol Serol, ma’r playlist yma yn anelu i ddangos amrywiaeth yn y gerddoriaeth creadigol mae menywod cymry wedi creu dros y blynyddoedd.

Blwyddyn diwethaf, fe guradom ni playlist o’n hoff ganeuon gan fenywod Cymry i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Y Merched a ni’n diweddaru’r rhestr wrth i ni fynd.
Ni’n gwybod bod pawb ddim ar y rhestr yma, felly gadewch i ni wybod pa berlau ni wedi gadael mas.