Hyrwyddwr Cerddoriaeth Cymraeg

Clwb Ifor Bach News09/11/2023

Lleoliad cerddorol llawr gwlad a chlwb nos sefydledig yng nghanol Caerdydd yw Clwb Ifor Bach, ac mae wedi bod yn gartref i gerddoriaeth newydd a cherddoriaeth sy’n dod i’r amlwg ers dros 40 mlynedd. Ni yw’r clwb nos sydd wedi bod ar agor hiraf yng Nghaerdydd, ac un o hyrwyddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru, yn rhaglennu cerddoriaeth fyw a digwyddiadau clwb ledled y wlad, ynghyd â chynnal yr ŵyl aml-safle yng nghanol y ddinas, Gŵyl Sŵn.

Ym mis Ebrill 2021, fe lansion ni Clwb Music, cwmni rheoli cerddoriaeth annibynnol, gyda’r nod o ddatblygu a chydweithio gydag artistiaid o Gymru.

Rydyn ni’n chwilio am Hyrwyddwr (Cymraeg) i ymuno â’n tîm. Eich ffocws fydd rheoli, datblygu a hyrwyddo pob digwyddiad Cymraeg, yn y lleoliad ac mewn mannau eraill yng Nghymru. Gan weithio yn ein tîm digwyddiadau mewnol bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o hyrwyddo, dealltwriaeth fanwl am y sin gerddorol Gymraeg a gwybodaeth am y cwmnïau a’r sefydliadau sy’n gweithredu yn y sector.

Mae’r cyfrifoldebau’n cynnwys cyflwyno strategaeth gerddoriaeth Gymraeg ar gyfer y lleoliad, datblygu syniadau ar gyfer ehangu ein rhaglen o ddigwyddiadau Cymraeg mewn mannau eraill yng Nghymru, gweithio gyda phartneriaid allanol ar ddarparu gwyliau Cymraeg allweddol, yn ogystal ag unrhyw waith perthnasol arall a bennir gan y Pennaeth Cerddoriaeth o bryd i’w gilydd. Er bod y swydd wedi’i lleoli yn y swyddfa yn bennaf, bydd disgwyl i chi fynd i ddigwyddiadau yn rheolaidd.

Download the full job description here.