
Gyda Tafwyl rownd y gornel, gofynnon ni am awgrymiadau beth i fwyta, gweld a gwneud yn yr ŵyl eleni!
WIGWAM
+ Nos Iau yn Clwb Ifor Bach
+ Dydd Sul ar brif lwyfan y Castell
Pwy ydych chi’n edrych mlaen at weld yn perfformio Tafwyl?
Lleuwen ar ddydd Gwener, Mellt dydd Sadwrn, a Mr dydd Sul.
Beth ydych chi methu aros i fyta?
Meat and Greek! Uchafbwynt Tafwyl heb os pob blwyddyn.Oes yna stondyn chi wir eisiau ymweld?
Stondin gelf Mike Goode, gwaith really cool ganddo.Oes yna trysor cudd o fewn Tafwyl eleni?
Peidiwch golli mas ar gyfle i wylio Hyll.
________________________
STEFFAN DAFYDD
+ Y boi marchnata yn Clwb Ifor Bach
Pwy ydych chi’n edrych mlaen at weld yn perfformio Tafwyl?
Lleuwen
Gafodd yr album newydd Gwn Glan Beibl Budr yn swnio’n unigryw a gafodd ei recordio mewn arddull organig iawn gyda lot o fyrfyfyrio a dwi’n edrych ymlaen i weld sut ma’ hwn yn trosglwyddo i’r llwyfan.Beth ydych chi methu aros i fyta?
Bearded Taco
Dwi wedi llyncu berfa llawn o’u tacos mewn un awr ginio yn y gorffennol. Dwi’ am neud yr un peth eleni yn Tafwyl.Oes yna stondyn chi wir eisiau ymweld?
Printhaus
Ma’ gyda nhw mobile printer nhw, so chi’n gallu neud screenprinto yn yr haul!
________________________
GWILYM
+ Nos Iau yn Clwb Ifor Bach
+ Dydd Sul ar brif lwyfan y Castell
Pwy ydych chi’n edrych mlaen at weld yn perfformio Tafwyl?
Ma’ Candelas wastad yn wych yn fyw, felly fydd hi’n grêt cael eu gweld nhw ar ddechrau haf prysur iddyn nhw! Hefyd, dwi wrth fy modd hefo album Lleuwen, a ‘rioed wedi’i gweld hi’n fyw, felly dwi’n edrych ymlaen at hynny!Beth ydych chi methu aros i fyta?
Dwi wedi clywed lot o betha’ da am bitsas Ffwrnes, felly gobeithio y gai’r cyfle i drio un eleni!
Oes yna stondyn chi wir eisiau ymweld?
Mae posteri Carw Piws yn cwl, felly mashwr ai draw i’w stondin nhw am sbec!Oes yna trysor cudd o fewn Tafwyl eleni
Mae Elis Derby yn sicr yn fand gymharol newydd y byddai’n mynd i’w gweld ar y dydd Sul yn y ‘Sgubor- gnewch yn siwr eich bod chitha ‘fyd!
________________________
MARI MATHIAS
+ Nos Iau yn Clwb Ifor Bach
Pwy ydych chi’n edrych mlaen at weld yn perfformio Tafwyl?
Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i wylio Patrobas, Gwilym a Band Pres! Yn Gwarantedig i gael amser wych a llawer o hwyl trwy ddawnsio a canu, gan gyfleu yr amrywiaeth o arddull cerddoriaeth cymraeg sydd ar y sîn ar hyn o bryd!
Beth ydych chi methu aros i fyta?
Mae yna amryw gwych o bwyd eleni! Ond mae’r bwyd strîd Groegaidd “Meat and Greek” oddi ar y siarcol yn cymryd fy ffansi, ynghyd a’r ‘Bomiau Browni’ o “Science cream” sydd yn swnio’n gwyddonol a blasus ofnadwy!Oes yna stondyn chi wir eisiau ymweld?
Dwi’n hoff iawn o stondinau dillad a “quirky” felly mae stondinau fel ‘Cant a mil vintage’ a Stondinau celf fel Olwen thomas Ceramics a Celf Ruth jen yn fy tynnu i!Oes yna trysor cudd o fewn Tafwyl eleni?
Mae’r cynllun o Ailddefnyddio cwpannau yn defnydd wych yn yr wyl ac mae’r ‘Hangover Yoga’ yn trysor cudd wych sy’n swnio fel hwyl ac yn defnyddiol iawn adeg bore ar ol y noson mawr!
________________________
ELAN EVANS
+ Edrych ar ôl pob peth bands Cymraeg yn Clwb Ifor Bach
+ DJ prif lwyfan y Castell Dydd Sul
Pwy ydych chi’n edrych mlaen at weld yn perfformio Tafwyl?
Fi methu aros i weld Gwenno yn headlino nos Wener yn y Castell a wedyn fyddai’n rhedeg syth draw i Clwb i wylio ReuVival i glywed caneuon Pop Negatif Wastad, Ty Gwydr a Traddodiad Ofnus (dyma’r tro cynta i ni glywed stwff Pop Negatif Wastad yn fyw!)
Fi’n ffan mawr o podlediad Llwyd Owen – Does Dim Gair Cymraeg Am Random – a ma’ fe’n neud fersiwn byw yn pabell ‘Byw yn y Ddinas’.Beth ydych chi methu aros i fyta?
Ma’r bwyd wastad yn anhygoel yn Tafwyl – fi’n edrych ‘mlan i drio Meat and Greek a pizzas lush Ffwrnes eleni.Oes yna trysor cudd o fewn Tafwyl eleni?
Fi’n edrych ‘mlaen i ddawnsio yn y Disgo Distaw nos Sadwrn a nos Sul – ma’ Beti George yn DJio!
________________________
ADAM WILLIAMS
+ Rheolwr Cerddoriaeth Byw yn Clwb Ifor Bach
Pwy ydych chi’n edrych mlaen at weld yn perfformio Tafwyl?
Zabrinski.
Beth ydych chi methu aros i fyta?
Beardy tacos.Oes yna stondyn chi wir eisiau ymweld?
Losin.Oes yna trysor cudd o fewn Tafwyl eleni?
Y peiriant arian tu fas.
________________________
GIGS TWRW x TAFWYL
Gwilym / Wigwam / Mari Mathias
Dydd Iau 20.06.19
7:30y.h | £6 | 16+
Reuvival: Lugg + Potter a’u band byw
Dydd Gwener 21.06.19
10:00yh | £10 | 18+
Parti Diwedd Tafwyl
Dydd Sul 23.06.19
10:00yh | £3 | 18+