FAQ's regarding Clwb Ifor Bach and the Covid-19 crisis

Cwestiynau ac atebion: Clwb + Covid-19

Newyddion Clwb Ifor Bach – 14/05/2020

Dyma rhai atebion i’r cwestiynau rydym yn derbyn yn aml ynglyn â tocynnau a sioeau wedi eu canslo neu eu gohirio yn ystod yr argyfwng Covid-19.

Mae gen i docynnau i sioe Clwb, sut ydw i’n gwybod os yw’r sioe wedi’i ganslo neu ohirio?

Mi fydd deiliaid tocynnau yn derbyn e-bost i’r cyfeiriad a chofrestrwyd wrth brynu tocynnau i’ch diweddaru am statws y sioe cyn gynted ag y gallwn. Mi fyddwn hefyd yn diweddaru ar draws ein rhwydweithiau cymdeithasol ac ar ein gwefan.

 

Mae gen i docynnau i sioe sydd wedi’i ganslo, beth sydd rhaid i mi wneud? 

Dim byd! Bydd deiliaid tocynnau yn derbyn ad-daliad yn awtomatig os yw sioe wedi’i ganslo. Os gwelwch yn dda, gadewch 5 diwrnod gwaith i’r ad-daliad cyrraedd eich cyfrif.

 

Mae gen i docynnau i sioe sydd wedi’i ohirio, beth sydd rhaid i mi wneud?

Dim byd! Mae tocynnau dal yn ddilys i bob un o’n sioeau sydd â dyddiad newydd.

 

Mae gen i docynnau i sioe sydd wedi’i ohirio, ond dydw i ddim yn gallu mynychu’r dyddiad newydd, beth sydd rhaid i mi wneud?

Cysylltwch â’ch ddarparwr tocynnau am ad-daliad os gwelwch yn dda. Efallai y bydd oedi cyn derbyn ymateb gan eich ddarparwr tocynnau ar hyn o bryd.