Sengl newydd Gwilym ‘\Neidia/’

Playlist – 28/05/2019

Mae 2019 yn gweld rhyddhad sengl newydd Gwilym – ‘\Neidia/’ a roedden ni’n digon lwcus i gael yr ecsgliwsif!

‘Dyn ni draw yn Clwb yn top fans Gwilym. O’r tro gynta’ daeth y bois i lwyfan Clwb Ifor Bach yn 2018, mae’r band wedi creu tipyn o enw i’w hun!

Fel mams a dads prowd iawn, fe wylion ni’r bechgyn yn derbyn 5 gwobr Y Selar eleni.
Roedd hefyd yn bleser enfawr i ni wahodd Gwilym i chwarae ar top bil un o’n sioeau sy’n dod lan yn fuan yn y Lexington, Llundain.

Ar ôl hwn, bydd y band yn teithio hyd a lled Cymru mewn 27 sioe wahanol, yn cynnwys ymddangos fel prif fand Maes B ar nos Wener y 9fed o Awst.

Dyma’r holl sioeau sydd gan Gwilym yr haf yma:

31/5 – Llwyfan Perfformio Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd
2/6 – Amgueddfa Lechi, Llanberis
5/6 – Lexington, Llundain
20/6 Clwb Ifor Bach, Caerdydd
23/6 – Tafwyl, Caerdydd
28/6 – Ffiliffest, Caerffili
5/7 – Gwyl Aberystwyth
13/7 – Gwyl Canol Dre, Caerfyrddin
– Parti Ponty, Pontypridd
20/7 – Sesiwn Fawr Dolgellau
22/7 – Pentre’r Ieuenctid, Llanelwedd
23/7 – Penmaenau, Llanelwedd
5/8 – Gig Cymdeithas, Gwesty’r Erryrod, Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst
6/8 – Llwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst
9/8 – MAES B, Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst
31/8- Gwyl Llanuwchllyn

Mi fydd ‘\Neidia/’ yn cael ei rhyddhau ar y 3ain o Fai trwy Recordiau Côsh.