
Diwrnod arall o ddathlu Dydd Miwsig Cymru wrth iddo dyfu’n fwy nag erioed!
Roedd yr awygylch yn anhygoel eleni, ar draws Cymru ac yn bellach, wrth i ni ddathlu Dydd Miwsig Cymru, gyda miwsig yn cael ei chwarae yn ysgolion, canolfannau siopa, theatrau, gigfannau a mwy! Roedden ni mor lwcus i westeio Dydd Miwsig Cymru yn Clwb Ifor Bach gyda lein-yp anferthol. Ymunodd Papur Wal, Los Blancos, Ynys, Melin Melyn, Lewys, Bandicoot, Thallo, Tiger Bay a DJ’s Dilys a Garmon â ni am ddiwrnod bendigedig.