
Ni’n chwilio am swyddog gweinyddol a marchnata i ymuno a thîm Clwb Music.
Ym mis Ebrill 2021, fe lansiwyd Clwb Music, cwmni cerddoriaeth annibynnol sy’n cynnwys label recordiau, cwmni rheoli a chyhoeddi gyda’r nod o ddatblygu a chydweithio ag artistiaid o Gymru.
Mae Clwb Ifor Bach yn edrych i recriwtio Swyddog Marchnata Digidol creadigol sydd gyda diddordeb dwys mewn cerddoriaeth gyfoes i ymuno â’r tîm marchnata. Mi fydd gan yr ymgeisydd del-frydol obsesiwn gyda cerddoriaeth a profiad mewn rôl tebyg neu mewn rôl o fewn y diwydiant cerddoriaeth.
Cliciwch yma i gael y disgrifiad swydd llawn. I ymgeisio am y rôl hon – anfonwch CV a llythyr eglurhaol at: guto@clwb.net
Dyddiad cau: 26.07.21