Cyfle Swydd: Rheolwr Dyletswydd

Newyddion Clwb Ifor Bach – 12/05/2021

Mae Clwb Ifor Bach yn chwilio am rheolwr dyletswydd i ymuno a’r tîm

Gigfan sefydledig yw Clwb Ifor Bach sydd wedi bod yn gartref i gerddoriaeth newydd am dros 35 mlynedd. Am y chwe blynedd diwethaf mae Clwb wedi bod yn un o brif hyrwyddwyr annibynnol Caerdydd, yn hyrwyddo digwyddiadau ar draws y wlad, rhaglennu cerddoriaeth byw ar gyfer amryw o ddigwyddiadau a chyflwyno yr ŵyl aml-leoliad dinesig, Gŵyl Sŵn.

Ym mis Ebrill 2021, fe lansiwyd Clwb Music, cwmni cerddoriaeth annibynnol sy’n cynnwys label recordiau, cwmni rheoli a chyhoeddi gyda’r nod o ddatblygu a chydweithio ag artistiaid o Gymru.

We are currently looking for two Duty Managers to join our company as we prepare to re-open.

Rydym yn chwili am ddau Rheolwr Dyletswydd i ymuno gyda’r tim wrth i ni baratoi i ail-agor.

Cliciwch yma i gael y disgrifiad swydd llawn.

I ymgeisio am y rôl hon – anfonwch CV a llythyr eglurhaol at: guto@clwb.net

Dyddiad cau: 28.05.21