Lottery Winners

Big Thing / The Bug Club
Thursday 02/04/2020
  • Lottery Winners
  • Big Thing / The Bug Club
  • Date: Thursday 02/04/2020
  • Time: 7.30pm
  • Price: £10
  • Age Restrictions: 16+
  • Venue: Clwb Ifor Bach
button-8 Book Tickets

Mae’r pedwarawd indie-pop Lottery Winners wedi’i ffurfio ar hunan-dibrisiant, amddifadedd enbyd a gwir cysegriad. Nawr wedi’i harwyddo i Modern Sky UK, mae’r band wedi bod yn rhyddhau bangers yn ddiweddar!

Mae Lottery Winners yn fand o gnawd ac esgyrn. Mae’n fand o Brydain dosbarth-gweithio. Mae eu sioeau byw yn ffrwydro o’r llwyfan ac yn aros yn meddyliau’r gynulleidfa am byth. Maent wastad yn dychwelyd. Dyma’ch hoff band newydd, p’un ai chi’n gwybod neu ddim eto.

Yn dechrau off yn y tafarndai a’r clybiau lleol yn Lancashine (gan gynnwys Phoenix Nights enwog) mae’r pedwarawd gryf yma yn wir wedi gweithio’n galed i ennill y clod. Mae 2019 yn barod wedi gweld ton o gefnogwyr newydd i Thom, Kate, Rob a Joe wrth iddynt ennill calonnau cynulleidfaoedd y DU ac Ewrop. Maent wedi bod yn brysur eleni yn cefnogi’r goreuon fel Catfish and the Bottlemen, Madness, Larkins, The Libertines, Circa Waves, Sleeper, Cassia, Paul Heaton, a set debut anhygoel yn Glastonbury mis Mehefin.

Wedi’i recordio yn Stiwdios Rockfield, mae ‘Hawaii’ yn drac indie-pop sy’n berffaith ar gyfer ddiwrnod llachar, beth bynnag y tywydd.
‘Yn tyfu fynny ar strydoedd llwyd Leigh, mae’n annodd i fachgen beidio breuddwydio am bethau gwell” dwedodd Thom Rylance. “Faint o bobl sy’n gwario’u holl fywyd yn aros am yr haf? Pobl ffôl sy’n byw yn y tywyllwch.”