Clwb Ifor Bach

11 Womanby Street, Caerdydd, CF10 1BR
Ff�n. 029 2023 2199
Ffacs. 029 2030 1113

Cymraeg | English

Posteri

The Earth

© 2013 Clwb Ifor Bach
All Rights Reserved. Preifatrwydd . Site Credits

Hanes

Agorodd Clwb Ifor Bach sydd ar Stryd Womanby - stryd gefn, gul gyferbyn â Chastell Caerdydd - ym 1983. Bydd rhai yn cyfeirio ato fel ‘Y Clwb’ neu'r ‘Clwb Cymraeg’. Yn wreiddiol clwb i aelodau yn unig oedd hwn a geisiai hyrwyddo'r Gymraeg yng Nghaerdydd. Tra bo'r Gymraeg yn cael ei siarad fel iaith gyntaf mewn rhan helaeth o Ogledd a Gorllewin Cymru, ystyrir mai Saesneg a siaredir yn bennaf yng Nghaerdydd a'r cyffiniau; adlewyrchir hyn yn y gerddoriaeth a ddaeth o'r ddinas dros y degawdau, ac eto unwaith y sefydlodd Clwb Ifor Bach ei hun fel canolfan gerddoriaeth, daeth bandiau ac artistiaid draw yno o bob rhan o Gymru.

clwb ifor bach

Goruchafiaeth fasnachol ychydig o grwpiau Cymraeg dethol yng nghanol y 90au - Super Furry Animals, Gorky’s Zygotic Mynci a Catatonia a gafodd y dylanwad mwyaf - ac a fu'n gyfrifol am danio cynnydd a mwy o eclectigiaeth yn amserlen archebu'r ganolfan, hyd yn oed os oedd hynny'n anfwriadol. Ymhlith rhestr eang o nosweithiau cofiadwy yn y degawd hwnnw cafwyd Autechre, eiconau electronig y DU, sioe gyntaf ac unig sioe Pavement yng Nghymru (llwyddiant cynnar i gwmni hyrwyddo Xplosure, a drefnai noson fandiau wythnosol a barhaodd am rai blynyddoedd), gig hynod lwyddiannus Coldplay yn union cyn i'r grŵp ddod yn enwog ac amryw o sesiynau gwyllt gan hyrwyddwyr hip-hop a dawns. Roedd Hustler yn cwmpasu hip-hop, ffync a breakbeat; daeth Silent Running â phob eicon drum’n’bass dan yr haul i Gaerdydd a bu Radius yn gyfrifol am gynnal safonau house a techno uchel. Ymhlith yr enwau sy'n britho hanes y Clwb, ceir DJ Shadow, Roni Size, Scratch Perverts, 808 State, LTJ Bukem a Roots Manuva, i enwi ychydig yn unig.

clwb ifor bach

Yn niwedd y 90au llaciodd y rheol y sefydlwyd y clwb arni - sef fod aelodaeth a'r cerdyn aelodaeth cysylltiedig yn amodol ar y gallu i siarad Cymraeg neu ymroddiad i ddysgu'r iaith. Yn gyffredinol, disgwylir i aelodau'r staff siarad y famiaith fodd bynnag, ac mae pethau fel posteri gigs yn y ganolfan yn ddwyieithog pan fo hynny'n bosibl. Parhaodd vibe Clwb Ifor Bach, sef cyfeillgar a heb reol dillad a chyda phrisiau diodydd rhesymol, fwy neu lai yr un fath, wrth i'r 21ain ganrif weld De Cymru yn esgor ar nifer fawr o fandiau newydd (a rapwyr, troellwyr disgiau ayyb). Drwy gael ei adlewyrchu mewn digwyddiadau megis Radio 1 Live In Cardiff (Hydref 2000) a labeli fel Boobytrap, roedd Clwb Ifor Bach yn fwy o uwchganolbwynt nag erioed ar gyfer gweithgareddau swnllyd. Roedd sioe gyfareddol a chynhesol lle'r oedd The Strokes yn brif fand, yn haf 2001, yn arbennig yn un sy'n sicr o aros yng nghof y rhai a lwyddodd i gipio tocyn.

clwb ifor bach

Mae'n 2008 erbyn hyn, ac mae Clwb Ifor Bach yn parhau i gryfhau ei sylfeini. Mynd a dod fu hanes hyrwyddwyr a nosweithiau clwb (er bod rhai wedi bod mewn bodolaeth ers dros ddegawd erbyn hyn), ac mae'r un peth yn wir am ganolfannau cerddoriaeth eraill. Mae cerddoriaeth fyw ar y llawr uchaf a'r llawr gwaelod ers 2005; yn ddiweddar mae'r llawr uchaf yn gallu dal mwy o bobl, ac eto mae digonedd o sioeau gorlawn. Nid yw'n beth anarferol i griwiau o fechgyn nid anenwog ei ddewis fel rhywle i gynnal ‘gig gartrefol’ dawel – mae Super Furry Animals, Lost Prophets a Bullet For My Valentine yn dair enghraifft ddiweddar. Cafwyd sioeau hynod yn ystod y 12 mis diwethaf diolch i Blood Red Shoes, Dead Meadow, Turisas, Foals, Black Lips, Future Of The Left, Los Campesinos!, The Cardiacs a Surgeon. Ymysg hyrwyddwyr amlwg, hyd yma, ceir Forecast, Music Events Wales, Pedigree Falcon, Holodeck, Aperture, Sumo a Lesson No.1. A oes gennych chi gynlluniau i fod ar y rhestr hon. Ffoniwch y ganolfan. Mae lle bob amser i fwy o'r math hwn o angerdd.

clwb ifor bach

Wel, does dim ond gobeithio fod hyn wedi taflu rhywfaint o oleuni. O ie! Pwy oedd Ifor Bach? - Ef oedd arglwydd Cantref Senghennydd. Ym 1158 herwgipiodd Iarll gormesol Caerloyw a thrwy wneud hynny enillodd statws arwr. Mae'n fath o symbol i Gymry nad ydynt yn ildio nac yn dilyn y ffordd hawdd. Enwodd rhywrai ganolfan gerddoriaeth ar ei ôl.